Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (45)v3 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)
|
Cwestiwn Brys
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog esbonio pam, yn dilyn argymhellion yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 2004 ar Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan, na chymerwyd unrhyw gamau gan Lywodraeth Cymru i atal cyllideb y corff hyd nes i welliannau sylweddol gael eu gwneud i reoli perfformiad. |
3. Cynnig i benodi archwilwyr ar gyfer cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru (15 munud)
NDM4910 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 14(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn penodi RSM Tenon yn archwilwyr cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â'r blynyddoedd ariannol 2011-2012; 2012-2013; a 2013-2014.
|
4. Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Menter (Mohammad Ashgar) (60 munud)
NNDM4878 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Mohammad Asghar gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot drwy ddilyn y linc canlynol:
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_027.htm
|
5. Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Leihau’r Risg o Strôc (60 munud)
NDM4911 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Rhagfyr 2011.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2012.
Dogfennau ategol: Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
|
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4912 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau cyflawni wedi’u costio’n briodol ar gyfer polisïau iechyd allweddol, fel archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl dros 50 oed a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar benwythnosau a gyda’r nos.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu “Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau cyflawni wedi’u costio’n briodol ar gyfer” a rhoi yn ei le “Yn cydnabod y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran datblygu cynlluniau ar gyfer gweithredu”.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ar ôl ‘pobl dros 50 oed’ rhoi ‘, cynyddu nifer yr ymwelwyr iechyd’.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r diffyg cynllunio manwl yng nghyswllt cyflawni polisïau iechyd allweddol.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynlluniau manwl am gwmpas, cost, cyflawni a chanlyniadau disgwyliedig polisïau iechyd allweddol. |
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM4909 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Cŵn Peryglus
Trafodaeth am ddulliau o wella lles cŵn a chael mwy o reolaeth drostynt. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mawrth, 21 Chwefror 2012